Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth – hi oedd yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae’r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi. Ond does ganddyn nhw fawr o obaith, dim â hwythau’n gwybod y nesaf peth i ddim am sut ferch oedd hi go iawn.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Novels and Stories For Young Adults
I chi sy’n gyfarwydd â chyfresi fel The Bridge a The Killing, anghofiwch am Scandi noir achos mae Bethesda noir wedi cyrraedd a dw i isio mwy!
Dw i wastad wedi bod yn hoff o ddarllen ond mi oedd ffeindio llyfr oedd wir yn dal fy sylw ac yn tanio’r diddordeb yna mewn darllen yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd yn gallu bod reit anodd ar adegau. O na fyddai Llechi wedi bod o gwmpas bryd hynny!
Rydan ni gyd yn gwybod am ddawn ysgrifennu arbennig Manon Steffan Ros erbyn hyn, ac yn siŵr o fod wedi darllen ambell gampwaith ganddi bellach, neu wedi clywed am rai o’i llyfrau o leiaf. Dydi Llechi yn sicr ddim yn siomi, ac mae gallu Manon i’n tynnu i mewn i fyd ac i fywydau’r cymeriadau nes ein bod wedi ymgolli’n llwyr yn parhau i fod mor gryf ag erioed yn y nofel hon.
Shane ydi’r adroddwr – hogyn ysgol 16 oed. Fo sy’n ein tywys trwy’r holl ddigwyddiadau yn dilyn llofruddiaeth Gwenno, ei gyd-ddisgybl – hogan brydferth, glyfar a chlên, merch y teulu sy’n cyflogi ei fam fel glanhawraig, a’i ffrind pennaf (er nad oes neb arall yn gwybod hynny).
Mae marwolaeth Gwenno yn dipyn o ddirgelwch. Pa reswm yn y byd fyddai gan unrhyw un i fod isio lladd Gwenno o bawb? Mae hi’n gwneud yn dda yn yr ysgol, mae hi’n boblogaidd ac yn perthyn i deulu bach perffaith. Trwy lygaid Shane a’i ffrindiau, fesul dipyn cawn wybod mwy a mwy am y teulu Davies ac am y Gwenno go iawn – Gwenno sy’n wahanol iawn i’r un sy’n cael ei phortreadu ar y newyddion. Daw sawl ffaith a digwyddiad annisgwyl i’r amlwg yn ystod cyfnod ymchwiliad yr heddlu, nes bod mwy nag un person dan amheuaeth gynnon ni.
Fe wnes i fwynhau’r twist ar ddiwedd y nofel, a’r ffaith ein bod ninnau fel darllenwyr yn cael ein twyllo fel yr heddlu a phawb arall yn y pentref trwy ran helaeth o’r nofel. Gawn ni wybod pwy lofruddiodd Gwenno? Fyddwch chi’n gallu dyfalu? Mi fydd yn rhaid i chi gael gafael ar gopi er mwyn cael gwybod!
Er mai nofel drosedd ydi hon yn bennaf, gyda mymryn o ddirgelwch, caiff themâu eraill eu trafod gan yr awdur, fel cam-drin emosiynol, iselder, dial, cyfeillgarwch, teulu, a dosbarth cymdeithasol. Mae cymeriad snobyddlyd a dauwynebog Glain Davies, mam Gwenno, yn cael ei gyfleu i’r dim trwy’r linell hon lle mae hi’n sôn am fam Shane:
‘Bechod. Hi ydi’r cleaner.’
Fe gawn ni hefyd sylwebaeth graff gan yr awdur ar sut y caiff Bethesda (ac o bosib Cymru yn gyffredinol) ei bortreadu gan y cyfryngau a gan bobl o’r tu allan i Gymru:
‘Doeddan nhw ddim yn gweld yr holl bethau hyfryd, cynnes, cyfeillgar am Fethesda. Doeddan nhw ddim eisiau gweld hynny. Roeddan nhw o’r farn fod byw mewn lle oedd ddim yn llawn Range Rovers a BMWs yn rhoi rhyw fath o esboniad i’r ffaith fod hogan un ar bymtheg oed wedi cael ei lladd.’
Y neges bwysicaf ar ddiwedd y nofel ydi pa mor bwysig ydi hi i ofyn am gymorth os ydach chi eich hun neu rywun rydach chi’n eu hadnabod yn mynd trwy gyfnod o iselder neu mewn sefyllfa anodd yn emosiynol. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r arwyddion ac i edrych allan amdanyn nhw – tydyn nhw ddim bob amser yn amlwg.
Fe wnes i wirioneddol fwynhau darllen Llechi. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n euog am fod â rhagfarn yn erbyn nofelau i bobl ifanc, oherwydd fy anwybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael erbyn hyn, mae’n siŵr o fod. Doeddwn i ddim yn meddwl y bysan nhw’n apelio ata i fel rhywun sydd o leiaf ddegawd yn hŷn na’r grŵp oedran targed, ond mae’n rhaid i mi ddisgyn ar fy mai. Mae’r nofel yma’n sicr yn un y gellir ei mwynhau’n fawr gan bobl ifanc, ond sy’n rhoi’r un mwynhad i gynulleidfa hŷn hefyd yn fy marn i. Braf ydi gweld mwy a mwy o nofelau fel hyn yn ymddangos yn ddiweddar; nofelau sy’n pontio’r cyfnod hwnnw lle mae rhywun yn raddol dyfu o fod yn berson ifanc i fod yn oedolyn. Mae angen mwy o nofelau fel hyn i sicrhau bod pobl ifanc yn dal ati i ddarllen ac i fwynhau darllen.


