Synopsis:
Addasiad o un o werthwyr gorau y New York Times. Dyma stori teimladwy am ferch ifanc sy'n sylwi bod ei llygaid hi'n edrych yn wahanol i lygaid rhai o'i ffrindiau. Mae gan ei ffrindiau lygaid mawr crwn ac amrannau hir, ac mae hi'n sylwi bod ei llygaid hi'n cusanu yn y corneli ac yn plygu'n ddwy leuad gilgant. Mae ei llygaid yn union fel rhai ei mam, ei nain a'i chwaer fach. Rhan o gynllun Rhyngom.