Druan o Draenog Bach! Cafodd ei nyth glyd ei chwythu i ffwrdd yn ystod storm ofnadwy. Does dim amdani felly ond gwisgo'n gynnes a mynd i gysgodi yn nhy Mochyn Daear. Ond tybed a fydd Draenog Bach yn llwyddo i gyrraedd pen ei daith yn ddiogel? Dilyniant hyfryd i Un Noson Oer ac Un Diwrnod Gwlyb. Addasiad Cymraeg o One Winter's Day.