Dyma stori sydd yn adrodd hanes diwrnod ym mywyd Edryd a Lleucu wrth i Tad-cu warchod yr efeilliaid drygionus. Mae'r gyfrol liwgar hon yn rhoi cip ar bersonoliaethau hoffus Edryd a Lleucu a chawn ddilyn y cymeriadau bach annwyl wrth iddynt ddod o hyd i ddireidi ym mhob twll a chornel.