Dyma'r ail lyfr yng nghyfres Cwm Teg, sydd wedi'i seilio ar gartwn poblogaidd gan gwmni Dinamo. Mae Jac wrth ei fodd yn gwylio'r cychod yn yr harbwr. Pysgotwr yw Wncwl Wyn ac mae ganddo rywbeth arbennig i Jac. Llyfr lliwgar sy'n addas ar gyfer plant o dan 7 oed.