Synopsis:
Dyma ffordd liwgar a gwreiddiol o ddysgu plant i gyfrif o un i ddeg drwy gyflwyno geirfa am liwiau, siapiau ac anifeiliaid. Bydd y darluniau deniadol ar y deg bloc adeiladu yn hwyluso'r dysgu ac yn meithrin sgiliau prosesu a rhyngweithio. Yn ogystal, o osod topiau'r blociau at ei gilydd, gwelir golygfa fferm ddeniadol.