Rydym ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw darllen, a pha mor bwysig yw cael llyfrau addas sy’n apelio. Mae pawb yn llawer fwy tebygol o ddarllen llyfrau y maen nhw’n eu mwynhau. Pwrpas Sôn am Lyfra’n yw i ddarparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.

Y gobaith yw y bydd y wefan yn help i blant, rhieni ac athrawon wrth ddod o hyd i’r llyfrau gorau.

Rydym yn ceisio creu cymuned o bobl sy’n adolygu llyfrau er mwyn helpu ein gilydd.

Beth am roi cynnig arni?

Dr Morgan Dafydd

Graddiodd Morgan o Brifysgol Bangor mewn Daearyddiaeth BSc cyn mynd ymlaen i wneud cwrs TAR Cynradd 3-7 oed yno.

Ar ôl hyfforddi fel athro cyfnod sylfaen, mi aeth ymlaen i ddysgu CA2 yn Nolgarrog. Yn ystod ei gyfnod fel athro, ymgymerodd Morgan â gradd meistr gyda Phrifysgol Caerdydd yn edrych yn bennaf ar sgiliau darllen a deall dysgwyr cynradd yn defnyddio’r dull darllen cilyddol.

Erbyn mis Medi 2019 roedd Morgan wedi gadael llawr y dosbarth am y tro er mwyn cychwyn PhD llawn amser, wedi ei gyllido gan y Cyngor Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor, yn edrych ar ddatblygu adnoddau darllen dwyieithog a defnyddio ieithoedd yn hyblyg. Ers cwblhau’r doethuriaeth yn 2025, bu Morgan yn gweithio i Wasanaeth Gwella Addysg Cyngor Conwy fel cydlynydd Siarter Iaith cyn dychwelyd i’r byd addysg fel athro Cymraeg a dyniaethau ym mis Medi yn Ysgol y Creuddyn.

Yn ei amser sbâr, mae Morgan yn aelod o griw gwirfoddol bad achub Conwy ac yn mwynhau trefnu gigs Cymraeg gyda Phwyllgor Cymraeg Aberconwy.

Dr. Llio Mai Dafydd

Graddiodd Llio o Brifysgol Bangor gyda gradd yn y Gymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn 2013. Aeth yn ei blaen i gwblhau MA Ysgrifennu Creadigol ac yna PhD ar agweddau o’r Theatr Gymraeg, 1945-79 (a ariannwyd gan yr AHRC). Cyhoeddwyd ei stori fer ‘Beth Os?’ yn y gyfrol Cariad Pur (2015) ac mae’r stori bellach yn rhan o’r maes llafur Lefel A Cymraeg: Ail Iaith (CBAC.)

Enillodd y gystadleuaeth Llên Meicro yn Eisteddfod yr Urdd 2015 a 2016 ynghyd â thlws coffa Jennie Eirian Davies. Hefyd, enillodd y wobr gyntaf am gyfansoddi drama dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015. Mae hi bellach yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg ac yn mwynhau bod yn aelod o bwyllgor Theatr Fach Llangefni, yn ogystal â chyfarwyddo.

Yn 2023, croesawodd Llio a Morgan eu mab cyntaf, Broc Siôn i’r byd, ac maent yn mwynhau mynd am dro fel teulu – a darllen storis amser gwely wrth gwrs!