Mae Aderyn Brau yn dilyn hanes Megan wrth iddi orfod symud o gefn gwlad i ddinas Abertawe, a’r problemau sy’n codi yn sgil hynny – newid ysgol, rhieni’n gwahanu, ardal anghyfarwydd. Ond yn raddol mae’n sylweddoli nad yw pethau’n wael i gyd wrth iddi baratoi ar gyfer eisteddfod yr ysgol, creu perthnasau newydd a datgelu cyfrinach mae ei mam wedi’i chadw oddi wrthi.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Stories for Children Aged 9-11