Y drydedd stori yn y gyfres Arwyr Argyfwng, sy'n adrodd hanes y llygod prysur yn mynd i ddiffodd t�n mewn siop anifeiliaid anwes. Maent yn llwyddo i achub bob un heb lawer o drafferth ond am Twts y Tarantiwla, sydd wedi codi ofn ar Morus. Mae'r llygod eraill yn cefnogi Morus ac yn ei annog i beidio a bod yn ofnus, a thrwy hynny mae'n llwyddo i achub y tarantiwla enfawr, a goresgyn ei ofn o bryfaid