Mae Celwydd Noeth yn ddilyniant i Heb Law Mam. Cawn rhagor o hanes Efa sydd bellach ym mlwyddyn 10. Mae ei mam oedd yn dioddef o gancr yn y nofel gyntaf wedi gwella. Cawn hanes Cai a hi, hanes y tîm rygbi merched, drygioni arferol ar lawr y dosbarth, ailgwrdd ag ambell gymeriad o’r nofel gyntaf a datblygu themâu fel secstio, peryglon ar y we, hunaniaeth, pwysau pobl ifanc a pherthyn.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Mae’r llyfr Celwydd Noeth gan Heiddwen Tomos yn dilyn stori merch ysgol uwchradd o’r enw Gwen ar ol i lun noeth ohoni gael ei wasgaru i weddill yr ysgol. Mae’r llyfr hwn yn ddilyniant i’r llyfr Heb Law Mam gan Heiddwen Tomos sydd yn dilyn stori merch o ddosbarth Gwen, Efa, wrth i’w mam frwydro a chancr. Estyna Celwydd Noeth ar stori Efa a’i chariad Cai ond dangosa hefyd bersbectif cymeriadau gwahanol o gymuned yr ysgol fel Gwen a athro cofrestru’r plant Mr. Llew. Dysga’r dilyniant hyn nad ydyn bob tro yn gwybod beth mae pobl yn delio gyda ac i beidio beirniadu pobl eraill cyn i ni ddod i nabod nhw.
Byddwn yn argymell y llyfr hwn i ferched yn ei arddegau gan ei fod yn delio a themâu a profiadau sydd yn berthnasol iawn i bobl o’r oedran a’r rhyw yna yn benodol. Ond mae llawer o themâu tywyll yn y llyfr hwn felly byddwn ddim yn ei argymell i blant 13 neu ifancach ei ddarllen heb caniatâd ei rhieni.
Yn bersonol, mwynheais y llyfr hwn yn fawr ac byddwn yn ei argymell yn fawr. Fy hoff beth am y llyfr oedd cymeriadau’r athrawon gan fy mod yn meddwl ei bod yn realistig iawn ac yn fy atgoffa o fy athrawon fy hun yn yr ysgol.