Nofel ffantasi am antur beryglus a dreigiau a bwystfilod i’w hymladd. Nid oes baban wedi’i eni ers deuddeg mlynedd ac nid oes neb yn gwybod pam. Mae hyn yn newid pan ymddangosa merch ifanc, ar ffurf cigfran, a Cwilsyn, bachgen deuddeg oed swil a chyffredin, yw unig obaith y genhedlaeth olaf. Mae’n rhaid iddo wynebu Brenin y Tywyllwch mewn brwydr, a hawlio Goleuni’r Byd cyn ei bod yn rhy hwyr.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Stories for Children Aged 9-11