Synopsis:
Pan ddechreuodd Ron Husband anghofio pethau - dyddiadau, enwau, apwyntiadau... pethau gwirion, pethau pwysig - mi gymerodd hi sbel cyn sylweddoli bod hwn yn fath gwahanol o anghofio. Ond dyma oedd arwydd cyntaf yr afiechyd a fyddai'n ei gipio i ffwrdd yn raddol oddi wrth y teulu a oedd mor annwyl ganddo.