Dim adolygiadau
Teitl:
Gwennol
Awdur:
Sonia Edwards
Darlunydd:
Sonia Edwards
Synopsis:

Nofel wreiddiol, afaelgar ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n adrodd hanes Yvonne sy’n dechrau yn ysgol Eldra. Er bod y ddwy ferch yn wahanol iawn, mae yna debygrwydd rhyngddynt, a bydd gwirionedd eu sefyllfa yn newid eu bywydau. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2019.

Genres:

Children's Books (Novels and Short Stories)

Novels and Stories For Young Adults

Cyhoeddwr:
CAA Cymru
Cyhoeddwyd:
December 2021
Fformat:
Clawr Meddal, 96 tudalennau

Mae Sôn am Lyfra’n dweud...

Nofel sydd wedi ei hanelu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau cynnar yw Gwennol. Dywed y broliant ar y cefn ei bod yn nofel afaelgar, ac mae hynny’n bendant yn wir gan nad oeddwn i’n gallu ei rhoi i lawr!

Stori am ddwy ferch 13 oed yw hon, sef Eldra ac Yvonne. Mae diwrnod Eldra yn yr ysgol yn mynd o ddrwg i waeth. Oes, mae ganddi wers Addysg Gorfforol, ond nid dyna ydi darn gwaethaf y diwrnod o bell ffordd. Yn eistedd ar ei phen ei hun yn yr ystafell ddosbarth ar ôl y wers Gymraeg mae’r dagrau’n dechrau llifo, hyd nes y daw Yvonne i’r golwg. Dyma ddiwrnod cyntaf Yvonne yn ei hysgol newydd, a tydi hithau ddim yn cael diwrnod da iawn chwaith. Tydi Eldra ddim yn rhy siŵr o’r hogan newydd i ddechrau, mae hi’n union fel Mandy Price, yn llawn hyder ac yn dweud wrthi beth i’w wneud. Mae gan Eldra ei hofn hi braidd. Yn ystod gwers ola’r dydd, y wers Ffrangeg, mae Yvonne yn dechrau deall beth sydd wedi digwydd i Eldra. Er mai newydd ei chyfarfod mae hi, mae rhywbeth yn dweud wrth Yvonne y dylai ei helpu. Cyn hynny, wrth iddi ffrwydro yng nghanol y wers Ffrangeg, daw’r dosbarth a Miss Meredydd i ddeall mwy am Yvonne hefyd.

Mae Eldra’n dechrau newid ei meddwl am yr hogan newydd. Tydi hi ddim fel Mandy. Mae Eldra’n teimlo’n gartrefol ac yn saff yng nghwmni Yvonne. Daw’r ddwy yn dipyn o ffrindiau, ac ar ôl gwers Addysg Gorfforol, mae Yvonne yn sylwi ar y man geni glas siâp gwennol sydd ar ffêr Eldra, a dyma ddechrau stori anghygoel sy’n datod wrth i’r genod ddod i wybod mwy am ei gilydd.

Dyma stori sy’n cyffwrdd â rhai o drafferthion ysgol a thyfu i fyny yn ogystal â galar a cholled a mabwysiadu hefyd. Mae’n stori am gyfeillgarwch ac yn stori am berthyn. Byddwn yn bendant yn argymell y nofel hon fel llyfr darllen i berson ifanc yn eu harddegau cynnar, ond efallai y bydd yn apelio fwy at ferched. Mae’n darllen yn hawdd, mae’r eirfa’n briodol ar gyfer yr oed darllen – yn ddigon i ehangu gerifa heb fod yn rhy heriol yn fy marn i. Byddwn wedi hoffi clywed mwy am Myfanwy McBryde, ond peryg mai testun nofel arall fyddai hynny. Mi oeddwn i hefyd yn hoff iawn o’r ffeithiau diddorol sydd wedi’u cynnwys ar ddiwedd y nofel sy’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o rai o elfennau’r stori.

reereeree

Gwybodaeth Bellach:

Mae merch o’r enw Yvonne yn dechrau yn ysgol Eldra. Mae’r ddwy ferch 13 oed yn wahanol iawn, ac eto mae ’na debygrwydd ac agosatrwydd rhyngddynt. Mae gwirionedd y sefyllfa yn sioc i’r ddwy, ac yn newid eu bywydau. * Nofel wreiddiol ar gyfer darllenwyr hŷn (12-14 oed), gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru; * Gellir ei darllen yn annibynnol er mwyn mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 3; * Mae pecyn digidol am ddim ar wefan Hwb, sy’n cynnwys cwestiynau i gyd-fynd â’r nofel. Bydd y nofel yn helpu dysgwyr i fwynhau darllen drwy ganfod, dethol a defnyddio gwybodaeth yn ogystal ag ymateb i’r hyn a ddarllenwyd mewn modd ysgogol – bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth o astudio’r nofel fel cyfrwng rhyddiaith ac yn ymateb i fanyleb newydd TGAU 2016 maes o law.
.