Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di … Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2021.
Rachel Ross spends much of her time outside school caring for her mother, who suffers from depression, and her younger sister; but the highlights of her week are the drama group sessions she belongs to. She feels safe there … a different experience to school, where she is bullied because of her disability. Tir na n-Og Award Winner 2021.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Novels and Stories For Young Adults
15.12.20
Er y bu’r awdur yn brysur yn hyrwyddo’r llyfr dros y cyfryngau cymdeithasol, dwi’n teimlo fod #Helynt wedi llithro allan o’r wasg yn ddistaw braidd, (gymaint o lyfrau da yn dod allan ar y funud mae’n anodd dal i fyny!) a dwi isio tynnu sylw ato, achos mae o’n blydi gwd stori! Mae’n gwneud chenj cael llyfr Cymraeg sydd wedi cael ei osod mewn ardal fwy Seisnigaidd, sydd tu allan i’r ‘Fro Gymraeg’. Mae ’na blant a phobl ifanc yn tyfu i fyny mewn Cymru sy’n bell i ffwrdd o fyd dosbarth canol yr Eisteddfodau, y capeli a chorau cerdd dant a dwi’n meddwl fod y nofel yma’n adlewyrchu hynny.
Dwi’n falch fod yr awdur wedi gadael pytiau o ddeialog Saesneg yn y nofel sy’n adlewyrchu realiti ieithyddol y Cymry sy’n byw yn y Gogledd Ddwyrain mor agos at y ffin. Ni chawn ddarlun rhamantaidd o’r lle, ond un sy’n teimlo’n authentic iawn – un sydd ddim yn osgoi trafod y tlodi, y cyffuriau, y trais a’r back alleys drewllyd. (tydi Rhyl ddim yn ddrwg i gyd, gyda llaw! Gallu bod yn le neis deu gwir!)
Merch ysgol uwchradd yw Rachel, y prif gymeriad, sydd â thipyn ar ei phlât. Oherwydd diffyg arian mae sefyllfa ansefydlog gartref. Mae ei thad yn gweithio oriau hir er mwyn crafu byw ond dydi hyn byth yn ddigon, mae ei mam yn byw ag iselder ac mae Rachel yn gorfod gofalu am ei chwaer fach heb sôn am ei gwaith ysgol. Ar ben hyn oll, dysgwn fod Rachel yn amputee a bod ganddi goes brosthetig sy’n gwneud pethau’n anoddach fyth yn yr ysgol, ond dydi hi ddim yn un am gwyno. Mae’r ffordd y mae hi wedi dod i arfer â hyn ac yn dyfalbarhau yn destament i’w chryfder fel person. Dwi wrth fy modd efo hi fel cymeriad achos mae hi’n straight-talking, no messing, os nad braidd yn fyrbwyll. Shoot first, ask questions later – ffordd dda o amddiffyn dy hun, efallai, ond un sy’n gallu creu helynt… (teitl mor addas!)
Heb law am gymeriad Dalian, o drioleg Y Melanai gan Bethan Gwanas, dwi ddim wedi dod ar draws cymeriad heb goes mewn llyfrau Cymraeg, ac roedd yn dipyn o agoriad llygaid #parch. Dwi ‘di deud hyn o’r blaen, ond mi dduda i eto – dwi’n hynod falch fod ‘na fwy o amrywiaeth yn dechrau ymddangos yn ein llenyddiaeth.
Heb ddatgelu gormod, mae antur Rachel yn cychwyn ar ôl iddi benderfynu sgeifio o’r ysgol gyda ffrind ar ôl methu’r bws. Yn dilyn dodgy encounter gyda dynion digon amheus mewn clwb nos, mae Rachel yn cyfarfod dyn sy’n gwybod lot mwy amdani hi nag y mae hi’n ei wybod amdano fo. Bydd yr hyn sydd ganddo i’w ddweud yn newid ei bywyd am byth!
Roeddwn i’n ffeindio fy hun yn methu rhoi’r llyfr i lawr. Mi ddaeth y boi DPD delivery at y drws fel o’n i ar fin cyrraedd un o uchafbwyntiau’r llyfr a chafodd o fawr o groeso, bechod, gan fy mod i ar dân isio ffeindio allan pwy oedd- (ha – no way dwi’n rhoi sboilars!).
Roedd siwrne Rachel drwy’r nofel yn hynod o ddifyr, ac er bod ei sylwadau ffraeth yn amusing ac yn ddoniol, mae darnau o’r llyfr yn anodd i’w darllen ar brydiau. Ydi, mae’r gamdriniaeth ddomestig yn insidious ac yn shocking, ond beth sy’n drist yw mai dyma yw realiti bywyd i lawer.
Roedd y cymeriadau a’u gweithredoedd yn gredadwy iawn. Un enghraifft o hyn oedd tad Rachel, Jason, sy’n gymeriad cymhleth. Ar rai adegau dangosodd ei fod yn gefnogol, ac yn gyffredinol roedd yn amddiffynnol o Rachel. Ond, roedd ochr arall, dywyll i’w gymeriad, gan gynnwys ei dymer. Roedd yn dda iawn am guddio’r ochr hon o’i gymeriad oddi wrth bobl eraill. Buan iawn y gwelwn ei true colours fodd bynnag, ac er nad ydw i’n esgusodi nac yn cyfiawnhau ei ymddygiad gwarthus, down i ddechrau deall fod ei broblemau ariannol a’i rwystredigaeth gyda’i sefyllfa yn achosi iddo ymddwyn yn y fath fodd. Gallwn hefyd weld rhai o’r rhesymau pam fod Mam Rachel wedi byw o dan ei gysgod cyhyd yn hytrach na’i adael. Tydi pethau byth mor syml neu du a gwyn!
Dyma nofel ffraeth a chyfoes sy’n berthnasol iawn heddiw. Mae hi’n nofel wahanol ac yn ychwanegiad pwysig i’r amrywiaeth o lyfrau Cymraeg fydd yn apelio at bobl ifanc. Er mai’r arddegau yw’r gynulleidfa darged, mi fydd oedolion yn sicr o fwynhau #Helynt hefyd. Dwi’n ffyddiog y bydd y llyfr yn denu unigolion sydd fel arfer ddim yn darllen llyfrau Cymraeg, a dwi’n annog athrawon i’w darllen hi er mwyn ei chyflwyno i’r disgyblion hynny.
