Nofel wedi’i lleoli mewn dyfodol dychmygol ond posib yw hon. Cawn ein dal o’r frawddeg gyntaf: Pan ti’n edrych allan o ffenest gegin tŷ ni, ti’n gweld dim ond awyr a chlywn Daniel, bachgen 16 oed, yn adrodd ei stori yn ei lais clir. Yn sgil cynhesu byd-eang, mae’r byd wedi newid, a Daniel a’i gymuned yn byw mewn nendwr ar gyrion dinas a aeth dan y môr. Stori am antur a chariad.
Children's Books (Novels and Short Stories)
Novels and Stories For Young Adults

♥ Llyfr y Mis: Awst 2023 ♥
♥ Enillydd Gwobr Nofel i Bobl Ifanc Cyfeillion y Cyngor Llyfrau 2019 ♥
Mae stori’r Nendyrau yn dilyn anturiaethau Daniel a’i ffrind Rani sy’n byw mewn dau dwr uchel uwchben dinas aeth o dan y mor mewn dyfodol wedi ei effeithio’n wael gan broblemau newid hinsawdd. Mae Daniel yn byw bywyd hapus, bodlon nes un diwrnod mae ei dad yn mynd ar goll ac mae e a Rani yn mynd ar antur i ddod o hyd iddo a’i achub.




